Mae hyfforddwr Abertawe wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” yn dilyn colli 2-1 yn erbyn Leicester oddi cartref.
Sgoriodd Bruno Berner yn yr hanner cyntaf a Michael Morrison yn yr ail er mwyn sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol i Leicester sy’n 12fed yn y tabl.
Daeth gôl cyntaf Leicester ar ôl chwe munud yn unig ond ymatebodd Abertawe chwe munud yn ddiweddarach â gôl o 25 llath gan Scott Sinclair, ond doedd ei ymdrech ddim yn ddigon.
“Rydw i’n hynod siomedig,” meddai Brendan Rogers. “Ein gêm ni oedd hon ac fe ddylen ni fod wedi ennill.
“Roedden ni wedi chwarae yn dda iawn, a rheoli rhannau mawr o’r gêm.
“Ond fe ddechreuon ni’n wael, cyn dod yn ôl i mewn i’r gêm, a sgorio gôl wych. Ond fe aethon ni i gysgu ar brydiau a rhaid gwneud yn siŵr nad ydi hynny’n digwydd eto.
“Roedd ein perfformiad ni’n haeddu rhywbeth heddiw ac roedd mynd ar y bws gartref â dim byd yn anodd iawn.”