Mae pryder y bydd rhagor o eira yn disgyn dros y dyddiau nesaf wrth i drigolion Gwledydd Prydain ddychwelyd i’r gwaith ar ôl y gwyliau Nadolig.

Rhybuddiodd proffwydi’r tywydd y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld eira heddiw ac y bydd y tywydd gaeafol yn chwythu ar draws gweddill Prydain yfory.

Dywedodd Aisling Creevey o gwmni tywydd MeteoGroup y byddai yna dywydd cyfnewidiol drwy gydol yr wythnos.

“Rydym ni’n disgwyl 5-8cm o eira yn Dumfries and Galloway a de Swydd Lanark.

“Fe fydd y ffrynt yn symud i’r de dros nos gan gyrraedd Cymru a Lloegr. Fe fydd yna ysbeidiau cliriach dros nos yng ngogledd Cymru.

“Bydd y tywydd yr wythnos yma yn llai oer nac yn ystod mis Rhagfyr, ond yn gyfnewidiol a gwyntog. Fe fydd bron a bod pob rhan o Brydain yn gweld glaw.”

(Llun: Eira yn yr Alban)