Roedd tua 5,000 o bobol yn bresennol yn stadiwm Ibrox heddiw er mwyn nodi 40 mlynedd ers marwolaeth 66 o bobol yn ystod gêm rhwng Rangers a Celtic yno.

Roedd teuluoedd a ffrindiau’r meirw yn y gwasanaeth, yn ogystal â phêl-droedwyr oedd yn chwarae ar y diwrnod, a gwleidyddion blaenllaw.

Roedd tîm presennol Rangers, yn ogystal â John Greig, y capten ar y dydd, yn bresennol. Roedd yr hyfforddwr Neil Lennon, y cadeirydd John Reid a’r Prif Weithredwr Peter Lawwell yno er mwyn cynrychioli Celtcic.

Digwyddodd y trychineb ar 2 Ionawr 1971 pan gafodd cefnogwyr eu gwasgu ar staer 13 Stadiwm Pêl-droed Rangers ar ddiwedd y gêm yn erbyn Celtic.

Roedd bachgen wyth oed ymysg y rheini fu farw. Cafodd dros 200 o gefnogwyr eraill eu hanafu.

Darllenodd hyfforddwr Rangers, Walter Smith, a John Greig, enwau’r meirw ac roedd ddwy funud o dawelwch i’w cofio.

Gosododd cadeirydd Celtic, y cyn ysgrifennydd gwladol John Reid, dorch gwyrdd a gwyn ar ran y clwb a’i gefnogwyr.