Mae dirprwy arweinydd cyngor Caerdydd wedi galw am chwalu carchar y ddinas a’i symud i rywle arall yn ne Cymru.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y South Wales Echo, dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Neil McEvoy, y dylai Carchar Caerdydd gael ei symud “ar hyd yr M4”.
Awgrymodd y byddai chwalu’r carchar Gradd B, sy’n dal 800 o ddynion, yn gyfle da i godi fflatiau neu siopau newydd.
Dywedodd y bydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Theresa May, yn galw am symud y carchar yn fuan.
Ychwanegodd y byddai adeiladu carchar newydd yn gyfle da i ychwanegu adeilad ar gyfer menywod hefyd.
Cafodd Carchar Caerdydd ei hadeiladu yn 1827 ond mae hi bellach tafliad carreg o brif siopau’r ddinas.
“Rydw i’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref er mwyn tynnu sylw at y darn o dir o safon ynghanol y ddinas allai gael ei ailddatblygu,” meddai.
“Mae angen carchar ar gyfer menywod yng Nghymru a pe baen nhw’n adeiladu un newydd yn ne Cymru, fe fyddai’n bosib ychwanegu carchar ar gyfer menywod hefyd.
“Fe fyddai hefyd yn agor safle gwych ynghanol Caerdydd ar gyfer busnesau neu dai. Fe fyddai’n bosib defnyddio’r rhan yna o’r ddinas ar gyfer rhywbeth llawer gwell.”