Mae’r Gwasanaethau Tân wedi gorfod gwagio 17 o dai ar ôl i dân ledu i bedwar tŷ teras yn Abertyleri ym Mlaenau Gwent fore heddiw.
Derbyniodd y gwasanaethau brys yr alwad am y tân ar Stryd Tillery tua hanner awr wedi hanner nos fore heddiw.
Nid yw’n glir eto beth achosodd y tân ond mae’r gwasanaethau brys yn y broses o ddiffodd y systemau nwy a thrydan.
Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.