Mae gwledydd yng ngorllewin Affrica’n bygwth anfon milwyr i mewn i wlad yr Arfordir Ifori er mwyn disodli’r arlywydd sy’n gwrthod gadael ei swydd.
Er ei fod wedi colli etholiad, mae Laurent Gbagbo yn mynnu aros yn y swydd gyda chefnogaeth y fyddin a’r lluoedd diogelwch.
Ar ôl cyfarfod chwe awr o gymdeithas o wledydd gorllewin Affrica, fe ddywedodd yr arweinwyr y bydden nhw’n anfon cynrychiolwyr i drafod gyda Gbagbo.
Ond, os byddai’n parhau i wrthod ymateb i’w galwadau, fe fydden nhw’n fodlon anfon milwyr i mewn, medden nhw.
Yr enillydd
Mae enillydd yr etholiad, Alassana Ouattara, yn cael ei warchod gan luoedd y Cenhedloedd Unedig, sydd hefyd wedi condemnio’r Arlywydd am wrthod ildio.
Mae adroddiadau bod milwyr yn ymddwyn yn ormesol yn y wlad lle’r oedd rhyfel cartref dinistriol saith mlynedd yn ôl.
Un posibilrwydd, yn ôl asiantaethau newyddion, yw y bydd arian Gbagbo’n dod i ben ac na fydd y milwyr a’r swyddogion diogelwch yn fodlon aros gydag ef heb gael eu talu.
Llun: Laurent Gbagbo