Fe allai meysydd awyr gael eu dirywio am broblemau teithio tebyg i rai’r wythnos ddiwetha’.

Mae’r Llywodraeth yn ystyried creu deddf newydd i osod dirwyon ar feysydd awyr am fethu â chyflawni gwahanol wasanaethau.

Ar hyn o bryd does gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ddim hawl i’w cosbi am broblemau fel y rhai diweddar.

Fe gaeodd Heathrow, maes awyr mwya’ gwledydd Prydain, am gyfnodau oherwydd yr eira ac roedd trafferthion mewn nifer o feysydd awyr eraill, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd.

Dim bonws

Fe gyhoeddodd prif weithredwr BAA, y cwmni Sbaenaidd sy’n berchen ar Heathrow, na fyddai’n derbyn ei fonws eleni oherwydd yr anawsterau pan fethodd gweithwyr â chlirio eira oddi ar y lleiniau glanio.

Roedd y Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi condemnio meysydd awyr ar draws gogledd Ewrop am fethu â delio gyda’r tywydd.

“Mae eisiau cosb ariannol am fethiant mewn gwasanaeth,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond wrth bapur newydd y Sunday Times.

“Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar berfformiad a bodlonrwydd teithwyr.”

Llun: Heathrow