Mae ffrind i’r ysbïwr a gafwyd yn farw yn noeth mewn cês wedi gwadu ei fod yn hoyw ac wedi datgelu ei fod yn gweithio ar greu enw a bodolaeth newydd iddo’i hun.

Roedd Sian Lloyd-Jones yn yr ysgol gynradd gyda Gareth Williams yn Ynys Môn ac fe ddaethon nhw’n ffrindiau eto.

Fe ddywedodd wrth bapur y Mail on Sunday bod y dyn 31 oed wedi dweud wrth wyth mis cyn iddo farw ei fod yn creu hunaniaeth newydd iddo’i hun.

Roedd yr arbenigwr ar fathemateg, a oedd yn gweithio i ganolfan glustfeinio GCHQ ac ar secondiad gyda gwasanaeth cudd MI6, wedi dangos bocs yn cynnwys dau basport a dweud ei fod yn gweithio ar ddysgu ei gymeriad newydd.

Noeth

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Gareth Williams yn noeth ac wedi ei gloi mewn cês yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gadarnhaodd Heddlu Llundain ei fod wedi marw cyn cael ei roi yn y cês, ei fod wedi bod yn ymwneud â ‘bondage’ a bod ganddo werth miloedd o bunnoedd o ddillad merched yn ei fflat.

Yn ôl Sian Lloyd-Jones, doedd dim gwir mewn amheuon bod Gareth Williams yn hoyw ac roedd hi’n bosib bod dillad merched a gafwyd yn ei fflat yn anrhegion ar ei chyfer hi neu ei chwaer ei hun, Ceri.

Fe honnodd hefyd y gallai wigiau a gafwyd yno fod ar gyfer parti gwisg ffansi yr oedd yn bwriadu mynd iddo.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i olion o bobol eraill yn fflat Gareth Williams yn Pimlico ond dydyn nhw ddim wedi gallu eu hadnabod. Fe fydd cwest i’r farwolaeth yn digwydd ar 15 Chwefror.

Sylwadau ei ffrind

“Roedd yn agored gyda’i deulu a, phetai’n hoyw ac yn cael ei demptio, fe fyddai wedi siarad am hynny, yn enwedig wrth ei chwaer,” meddai Sian Lloyd-Jones, sy’n 33 oed.

“Wir yr, doedd dim amwyster amdano fo. Roedd yn trysori’r amser yr oedd yn ei gael gyda’i chwaer a fi ac roedd eisio hynny efo merched eraill.”

Llun: GCHQ lle’r oedd Gareth Williams yn gweithio (Bthebest CCA 3.0)