Fe gafodd deuddeg dyn o Somalia eu harestio yn Rotterdam yn yr Iseldiroedd ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllwyn terfysgol.

Fe gyhoeddodd awdurdodau’r wlad bod y dwsin wedi eu cymryd i’r ddalfa nos Wener – mae chwech yn dod o’r Iseldiroedd ei hun.

Mae’r awdurdodau ar draws y Gorllewin wedi bod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl ymosodiadau yn Sweden a’r Eidal ac oherwydd bod y Nadolig yn cael ei ystyried yn amser peryglus.

Y cefndir

Yr adeg yma y llynedd, fe geisiodd dyn ffrwydro bom mewn awyren uwchben dinas Detroit yn yr Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd, mae deuddeg o ddynion yn cael eu holi yng ngwledydd Prydain hefyd – gan gynnwys pump o Gaerdydd. Fe fydd rhaid i’r heddlu eu rhyddhau yfory neu wneud cais am gyfnod pellach i’w holi.

Yn ôl ymgynghorydd annibynnol y Llywodraeth ar derfysgaeth, cyn AS Maldwyn, Alex Carlile, roedd yna dystiolaeth o gynllwyn “arwyddocaol” a fyddai wedi targedu “sawl dinas” yng ngwledydd Prydain.

Llun: Rotterdam (Massimo Catarinella CCA 3.0)