Mae Jamie Roberts yn dechrau ei gêm gyntaf o’r tymor ar ôl cael ei gynnwys yn y canol i’r Gleision i wynebu’r Dreigiau yn Rodney Parade dydd Llun.

Fe fydd y gorchudd o eira tros gae Rodney Parade yn cael ei adael tan fore’r gêm er mwyn ceisio gwarchod y ddaear oddi tano.

Fe ddaeth canolwr Cymru oddi ar y fainc yn erbyn Northampton y penwythnos diwethaf ar ôl gwella o lawdriniaeth i’w law dros yr haf. Fe fydd Roberts yn dechrau yn y canol gyda Casey Laulala.

Newyddion y Gleision

Mae’r rhanbarth hefyd yn croesawu’r bachwr T Rhys Thomas a fydd yn ymuno gyda John Yapp a Gethin Jenkins yn y rheng flaen.

Mae Michael Paterson yn dechrau yn yr ail reng gyda Bradley Davies tra bod rheng ôl newydd – Tom Brown, Sam Warburton ac Andries Pretorius.

Fe fydd y mewnwr, Tom Slater, yn dechrau yn safle’r mewnwr am ei drydedd gêm yn y Cynghrair Magners gyda Dan Parks yn faswr.

Mae’r clo, Deiniol Jones, yn dychwelyd i’r Gleision ar y fainc yn dilyn anaf.

Newyddion y Dreigiau

Fe fydd y maswr, Jason Tovey, yn dychwelyd i’r Dreigiau ar ôl colli’r gêm yn erbyn Wasps ac mae Luke Charteris a Dan Lydiate, a oedd ar y fainc bryd hynny, hefyd yn dechrau.

Fe fydd yr asgellwr, Will Harries, yn dechrau yn safle’r cefnwr, gydag Aled Brew ar yr asgell arall.

Tîm y Dreigiau

15 Will Harries; 14 Adam Hughes, 13 Tom Riley, 12 Ashley Smith, 11 Aled Brew; 10 Jason Tovey; 9 Wayne Evans; 1 Hugh Gustafson, 2 Tom Willis (c), 3 Ben Castle; 4 Luke Charteris, 5 Scott Morgan; 6 Dan Lydiate, 7 Gavin Thomas, 8 Toby Faletau

Eilyddion

16 Steve Jones, 17 Pat Palmer, 18 Scott Roberts, 19 Adam Jones, 20 Lewis Evans, 21 Pat Leach, 22 Jon Evans, 23 Matthew Jones

Tîm y Gleision

15 Chris Czekaj 14 Richard Mustoe 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Tom James 10 Dan Parks 9 Tom Slater.

1 Gethin Jenkins. 2 T Rhys Thomas 3 John Yapp 4 Bradley Davies 5 Michael Paterson 6 Andries Pretorius 7 Sam Warburton 8 Tom Brown.

Eilyddion

16 Rhys Williams 17 Taufa’ao Filise 18 Sam Hobbs 19 Deiniol Jones 20 Maama Molitika 21 Richie Rees 22 Ceri Sweeney 23 Dafydd Hewitt.

Llun: Jamie Roberts