Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets wedi dweud na fydd angen llawer o ysbrydoliaeth ar ei dîm ar gyfer gemau mawr fel yr un yn erbyn y Gweilch ddydd Sul.

Mae Nigel Davies yn credu bod gemau o’r fath wastad yn her ond y bydd “yn dangos ochr orau’r tîm”.

Y Scarlets sy’n cael y tymor gorau hyd yn hyn ond fe fyddan nhw hefyd yn ymwybodol nad ydyn nhw wedi ennill ar gae’r Liberty yn ddiweddar, ac maen nhw’n gobeithio gwneud yn iawn am hyn ar ôl i’r Gweilch ennill y pum gêm ddarbi ddiwethaf.

Mae’r Scarlets yn yr ail safle yng Nghynghrair Magners, ac maen nhw wedi ennill 11 o’u 16 gêm gystadleuol y tymor hwn.

Sylwadau Nigel Davies

“R’yn ni’n falch gyda’r hyn yr ’yn ni wedi llwyddo i’w wneud hyd yn hyn y tymor hwn. Mae’r tîm wedi datblygu ac wedi dangos cryfder anhygoel ond r’yn ni i gyd yn sylweddoli bod lle i wella eto. Mae’n rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd,” meddai Nigel Davies.

“R’yn ni wedi gweithio’n galed i greu’r platfform yma i ni’n hunain ac mae’n bwysig i ni barhau ar y trywydd yma am weddill y tymor.

“Mae lot o ymdrech ac ymrwymiad wedi ei wneud tu ôl i’r llenni i sicrhau datblygiad y garfan ifanc yma ac mae’r chwaraewyr wedi ymateb yn dda. Mae yna grŵp da o hyfforddwyr yma sy’n sicrhau bod y chwaraewyr yn datblygu’n dda.”

Mae Nigel Davies yn disgwyl gêm anodd yn erbyn tîm y Gweilch sy’n llawn sêr rhyngwladol.

“Fe fydd yn her gorfforol ond fe fydd y ddau dîm wedi paratoi ar gyfer hynny – mae’n ddigwyddiad arbennig bob tro,” ychwanegodd Nigel Davies.

Newyddion y Scarlets

Mae capten Cymru a’r Scarlets Matthew Rees yn dychwelyd i’r cae i arwain pac y Scarlets.

Fe fydd cefnogwyr y Scarlets hefyd yn falch o weld y canolwr talentog Jon Davies yn ôl ar y fainc yn dilyn anaf i’w bigwrn ym mis Tachwedd.

Mae’r prif hyfforddwr wedi dewis chwaraewyr profiadol ar y fainc gan gynnwys David Lyons, Ken Owens, Rob McCusker a Tavis Knoyle.

Newyddion y Gweilch

Mae Barry Davies yn parhau yn safle’r cefnwr yn absennoldeb Lee Byrne tra bod Tommy Bowe yn ymuno gyda Jmaes Hook yn y canol.

Mae Nikki Walker a Richard Fussell yn dechrau ar yr esgyll gyda Dan Biggar a Mike Phillips yn safle’r haneri.

Mae Duncan Jones yn dechrau yn y rheng flaen yn lle Paul James gydag Adam Jones a Richard Hibbard.

Mae Ryan Jones yn cadw ei le yn yr ail reng gydag Alun Wyn Jones tra bod Jerry Collins, Marty Holah a Jonathan Thomas yn y rheng ôl.

‘Achlysur arbennig’

Mae Prif Hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley wedi dweud bod pawb yn y rhanbarth yn edrych ymlaen at y gêm ddarbi.

Mae Holley yn credu bod chwarae Munster ddwywaith mewn pythefnos – fel y gwnaethon nhw yng Nghwpan Heineken – yn mynd i wneud lles i’r Gweilch dros yr wythnosau nesaf.

“Pan ’ych chi’n chwarae ar y lefel yna mae’n eich galluogi chi i gael cysondeb yn eich chwarae,” meddai Holley.

Carfan y Scarlets

15 Dan Newton, 14 Morgan Stoddart, 13 Gareth Maule, 12 Regan King, 11 Sean Lamont, 10 Rhys Priestland, 9 Martin Roberts.

1 Iestyn Thomas, 2 Matthew Rees, 3 Simon Gardiner, 4 Jonny Fa’amatuainu, 5 Dominic Day, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Ben Morgan.

Eilyddion- 16 Ken Owens, 17 Rhodri Jones, 18 Phil John, 19 Rob McCusker, 20 David Lyons, 21 Tavis Knoyle, 22 Jon Davies, 23 Lee Williams.

Carfan y Gweilch

15 Barry Davies 14 Nikki Walker 13 Tommy Bowe 12 James Hook 11 Richard Fussell 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips.

1 Duncan Jones 2 Richard Hibbard 3 Adam Jones4 Ryan Jones 5 Alun Wyn Jones 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Jonathan Thomas.

Eilyddion- 16 Huw Bennett17 Paul James18 Craig Mitchell19 Ian Evans20 Justin Tipuric21 Jamie Nutbrown22 Andrew Bishop23 Sonny Parker

Llun: Stadiwm Liberty yn barod am y gem fawr