Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud bod cyfnod y Nadolig yn amser da i roi hwb mawr i obeithion timau am ddyrchafiad.
Mae’r Elyrch, sy’n drydydd, yn dechrau ar gyfnod prysur iawn yn nhymor y Bencampwriaeth gyda phedair gêm i’w chwarae mewn nawr diwrnod.
Fe fydd gêm gyntaf y cyfnod yn erbyn y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth, QPR, a hynny yn Loftus Road ar Ŵyl San Steffan.
Angen taro’n ôl
Fe fydd Brendan Rodgers yn awyddus i weld ei dîm yn taro’n ôl ar ôl colli yn erbyn Sheffield Utd y penwythnos diwethaf a chael cyfres o ganlyniadau siomedig.
“Mae’n gyfle da i gael hwb mawr yn mynd mewn i’r flwyddyn newydd gyda chymaint o bwyntiau ar gael,” meddai Brendan Rodgers.
“Fe fydd mwyafrif y timau sy’n agos at y brig yn gobeithio cynnal eu safleoedd dros y Nadolig.”
Gorfod newid y tîm
Ond mae rheolwr Abertawe yn ymwybodol bydd angen iddo ddefnyddio cryfder ei garfan i sicrhau bod y tîm yn aros yn ffres gyda’r holl gemau.
“R’yn ni wedi cyfarfod i drafod y chwaraewyr sydd ar gael i chwarae dros y Nadolig. Fydd hi ddim yn bosib cadw’r un tîm gyda phedair gêm i’w chwarae.
“R’yn ni am wneud yn siŵr bod y tîm yn ffres yn mynd mewn i bob gêm.”
Llun: Brendan Rodgers