Mae’r heddlu a oedd yn chwilio am y pensaer coll o Fryste wedi dod o hyd i gorff.

Maen nhw wedi rhoi gwybod i rieni Joanna Yeates a ddiflannodd fwy nag wythnos yn ôl wedi noson allan.

Mae darn o goedwig ger pentre’ Failand yng ngogledd Gwlad yr Haf wedi cael ei gau a phabell wen wedi ei chodi lle’r oedd y corff.

Mae patholegwyr wedi eu galw ond, yn ôl yr heddlu, mae’n llawer rhy gynnar i ddweud beth oedd achos y farwolaeth.

Diflannu nos Wener

Mae 30 ditectif a staff cefnogi’n gweithio ar yr achos – roedd y pensaer 25 oed wedi cael ei gweld ddiwetha’ nos Wener, wythnos yn ôl.

Roedd ei chariad wedi galw’r heddlu a hynny, meddai, ar ôl dod yn ôl o ymweliad â Sheffield a sylweddoli nad oedd Joanna Yeates yn y fflat yr oedden nhw’n ei rannu.

Roedd rhieni’r ferch ifanc yn ofni ei bod wedi ei chipio.

Llun: Heddlu ger y fan lle daethpwyd o hyd i’r corff (Gwifren PA)