Ddeuddydd cyn i’r Llywodraeth wneud tro pedol a dileu toriadau mewn gwario ar chwaraeon, roedd y Frenhines yn recordio’i neges Nadolig yn canmol pwysigrwydd y campau.
Heddiw, fe ddywedodd bod chwaraeon yn allweddol o ran magu gwerthoedd, gan gynnwys onestrwydd, parch a theimlad o gymuned.
Dyna oedd ei phrif neges yn ei hanerchiad teledu blynyddol ac fe gafodd ei recordio yn fuan wedi i’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, ddweud ei fod yn dileu’r arian ar gyfer partneriaeth i ddatblygu chwaraeon yn ysgolion Lloegr.
Fe gafodd neges y Frenhines ei recordio ar 15 Rhagfyr, ar 17 Rhagfyr, fe ddaeth yn glir bod Michael Gove wedi newid ei feddwl ac y byddai elfennau o’r bartneriaeth yn cael eu cadw.
Roedd wedi dweud i ddechrau nad oedd y partneriaethau werth yr arian.
Llun: Y Frenhines