Mae Bethlehem yn llawn pererinion eleni wrth i ddwywaith gymaint o bobol benderfynu treulio’r Nadolig yn y ddinas nag y llynedd.

Teithiodd degau o filoedd o Gristnogion i Eglwys y Geni bore dydd Sadwrn er mwyn gweddïo ger y man y mae traddodiad yn dweud y cafodd Iesu Grist ei eni.

Yn ôl swyddogion byddin Israel, sy’n cadw llygad ar faint o ymwelwyr sy’n mynd i mewn ac allan o’r Lan Orllewinol, roedd tua 100,000 wedi teithio i’r dref noswyl Nadolig, o’i gymharu â thua 50,000 y llynedd.

Mae pererinion Cristnogol wedi bod dechrau ymweld â Bethlehem unwaith eto wrth i’r trais yn yr ardal dawelu dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae yna 2,750 o ystafelloedd gwesty yn y ddinas ac roedd pob un yn llawn dros wythnos y Nadolig.

Dywedodd swyddogion y dref na fyddai unrhyw un yn gorfod cysgu mewn stabl – mae rhagor o westai yn cael eu hadeiladu ar gyfer y flwyddyn nesaf.