Dechreuodd Dydd Nadolig yn rhewllyd iawn i’r rhan fwyaf o Brydainwrth i’r tymheredd syrthio mor isel â 18 gradd mewn rhai mannau.
Syrthiodd eira yng Nghaeredin, Glasgow a gogledd ddwyrain Lloegr, acroedd eira eisoes ar lawr ar draws y rhan fwyaf o Gymru.
Serch hynny roedd y bwcis yn dathlu ar ôl i nifer o bobol roi arian ar ‘Nadolig gwyn’ eleni.
Dywedodd David Stevens o gwmni betio Coral y byddai eira mawr ddydd Nadolig “wedi bod yn anrheg Nadolig gwerth miliynau o bunnoedd i gamblwyr Prydain”.
“Serch hynny, heblaw am yr Alban a gogledd ddwyrain Lloegr, dorres dim lot o eira i’w gael. Fe fydd hi’n Nadolig hapus iawn i’r bwcis!”
Tywydd cynhesach
Bore ma roedd y rhan fwyaf o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn heulog ac yn sych, â’r tymheredd ymhell o dan y rhewbwynt.
Dywedodd proffwydi’r Swyddfa Dywydd y bydd pobol yn gallu gadael eu hymbarelau gartref wrth iddyn nhw deithio i’r siopau i chwilio am fargeinion yfory.
“Bydd y rhan fwyaf o Brydain fel y mae hi heddiw: yn sych ac yn heulog,” meddai.
“Ond mi fydd hi’n cynhesu a dyna’r patrwm ar gyfer y dyddiau nesaf. Fe fydd hi’n gynhesach ond mae hi’n dal yn oerach na’r arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn.
“Os nad oes yna gyfnod hir o dywydd cynhesach oeri fydd hi eto yn eithaf buan.”