Mae dyn 23 oed o Lannau Merswy wedi ei arestio mewn cysylltiad â lladrad mewn swyddfa bost AM PM ar Stryd Holt, Wrecsam ar 22 Rhagfyr.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad rhwng 5.15pm a 5.25pm pan ffodd ddau ddyn ag arian parod i gyfeiriad Maes y Dre.
Mae heddlu Wrecsam yn ymchwilio ac yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.