Treuliodd miloedd o deithwyr noswyl Nadolig mewn meysydd awyr ym Mharis a Brwsel ar ôl i eira trwm effeithio ar drafnidiaeth ar draws Ewrop.

Roedd yna bryderon diogelwch ynglŷn â tho maes awyr Charles de Gaulle Paris oherwydd yr eira, ac fe fu’n rhaid gwagio rhan o Terminal 2E.

Tra bod pethau’n dechrau dadmer ym Mhrydain ar ôl dyddiau o drafferthion, roedd eira wedi atal teithwyr rhag hedfan yn Iwerddon a Denmarc, ac wedi cau maes awyr Dusseldorf yn yr Almaen am sawl awr.

Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Charles de Gaulle eu bod nhw wedi rhoi anrhegion i blant oedd wedi gorfod cysgu yn y maes awyr ar noswyl Nadolig.

Roedd anrheg Nadolig i’r maes awyr o’r Unol Daleithiau – dau lwyth o hylif dadrewi fyddai’n caniatáu i’w hawyrennau hedfan unwaith eto.

Mae awdurdodau’r maes awyr wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd pethau’n well heddiw ar ôl gorfod canslo 65% o’r ehediadau oddi yno ddoe.

Ym Maes Awyr Brwsel darparodd y Groes Goch gannoedd o flancedi a chotiau ar gyfer teithwyr oedd yn gorfod cysgu yno dros nos.

Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr, Jan Van der Cruysse, bod cannoedd o deithwyr wedi treulio noswyl Nadolig yno.