Mae disgwyl i siopwyr ar-lein wario mwy nag erioed heddiw, wrth i fusnesau gynnig bargeinion di-ri i wneud yn iawn am y diffyg gwerthu adeg yr eira.

Dechreuodd y rhan fwyaf o fusnesau gynnig bargeinion mawr ar-lein o hanner nos heddiw ymlaen.

Mae disgwyl y bydd tua 4.8 miliwn o bobol yn gwario tua £153 miliwn Ddydd Nadolig, yn ôl y grŵp Interactive Media in Retail.

Yn ogystal â hynny mae disgwyl i wario ar Ŵyl San Steffan godi heibio £300 miliwn am y tro cyntaf, medden nhw.

“Mae Dydd Nadolig bellach yn un prysur iawn o ran siopa ar-lein, wrth i bobol sy’n hoffi bargen gymryd mantais o natur 24/7 prynu a gwerthu ar y we,” meddai cyfarwyddwr Interactive Media in Retail , David Smith.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni bargeinion moneysupermarket.com mai Gŵyl San Steffan eleni fydd eu diwrnod prysuraf erioed, ac y bydd Prydain yn gwario £323 miliwn ar-lein.

Y cynnydd mewn Treth ar Werth, bargeinion tymhorol, yn ogystal â’r tywydd oer y tu allan, fydd yn gyfrifol am hynny, medden nhw.

Bydd cwsmeriaid yn aros ar y cyfrifiadur yn hytrach nag mynd allan i siopa ar y stryd fawr, meddai llefarydd ar ran y cwmni.