Er bod yr eira gwaetha’ heibio am y tro, mae pennaeth corff diogelwch wedi rhybuddio rhag peryglon ar y ffyrdd yn ystod y cyfnod cyfnewidiol nesa’.

Fe fydd peryg o ddamweiniau wrth i byliau o ddadmer gael eu dilyn gan rew, meddai Paul Smith, Cadeirydd y Fforwm ar gyfer gwasanaethau diogelwch a brys yn ardal Heddlu De Cymru.

Roedd wedi galw cyfarfod o’r Fforwm er mwyn ystyried effeithiau’r tywydd garw diweddar ac ymateb y gwasanaethau iddyn nhw.

Pwysau

Er gwaetha’r pwysau, roedden nhw’n credu eu bod wedi llwyddo i gwrdd â’r sialens, meddai, ond roedd angen i’r cydweithredu rhwng y gwahanol awdurdodau barhau i’r Flwyddyn Newydd.

Roedd rhagolygon y tywydd yn awgrymu cyfnod cyfnewidiol, gyda dadmer ac yna rhewi eto, ac roedd angen gofal mawr, meddai Paul Smith sydd hefyd yn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe.

“Fe ddylai pobol ochel rhag bod yn ddi-hid os ydyn nhw’n credu fod dadmer wedi bod,” meddai. “Gall cwymp yn y tymheredd arwain at ail-rewi gan wneud y ddaear yn fwy llithrig fyth.”

Llun: Peiriant chwythu eira (Dinas Caerdydd)