Mae Heddlu Llundain yn holi dyn yn y gred mai ef yw perchennog y ci a laddodd wraig yn Llundain echnos.

Fe gafodd Alex Blackburn-Smith ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad a hefyd o dyfu canabis.

Fe ddaeth heddlu o hyd i’r wraig, Barbara Williams, mewn fflat yn ardal Wallington, yn diodde’ o anafiadau drwg ar ôl i’r ci – mastiff Belgaidd – ymosod arni.

Fe fu farw cyn mynd â hi i’r ysbyty ac fe gafodd y ci ei ddifa yn y fan a’r lle.

Y gred yw mai Alex Blackburn-Smith yw perchennog y fflat hefyd.