Mae Archesgob Caergaint, y Cymro Rowan Williams, wedi galw ar i bawb dderbyn eu siâr o galedi yn ystod yr argyfwng economaidd.

Yn ei neges Nadolig, mae’n dweud y bydd cymdeithas yn gallu cyd-dynnu a dod trwy’r anawsterau os ydyn nhw’n teimlo bod pawb yn cael chwarae teg. Hyd yma, meddai, dyw pobol ddim yn teimlo fod y mwya’ cefnog wedi cymryd eu rhan nhw o’r baich.

Ac mae wedi awgrymu fod rhinwedd yn syniad y Prif Weinidog o ‘Gymdeithas Fawr’ ond bod angen ail-greu hyder yn y drefn.

Dyfyniadau o’r neges

“Gallwn fel cymdeithas oddef caledi, ac fe wnawn hynny, os byddwn yn hyderus ei fod yn cael ei rannu’n deg … nad oes neb yn cael eu hanghofio, nad oes unrhyw grŵp diddordeb neu grŵp pwyso yn gallu osgoi’r cyfan.

“Dyw ymddiriedaeth ddim yn amlwg ar hyn o bryd, o gofio’r argyfyngau anferth mewn ymddiriedaeth sydd wedi ein siglo ni i gyd yn ystod y cwpwl o flynyddoedd diwetha’ a’r teimlad parhaol nad yw’r mwya’ cyfoethog wedi cymryd eu rhan o’r baich eto.

“Os ydyn ni’n barod, os ydyn ni i gyd yn barod i gwrdd â’r sialens yng ngeiriau’r ‘Gymdeithas Fawr’, gallwn adfer peth ymddiriedaeth rhyngon â’n gilydd.”

Llun: Rowan Williams, Archesgob Caergaint (Palas Lambeth)