Mae 40 o bobol wedi cael eu lladd gan hunan-fomwraig ym Mhacistan ac o leia’ 50 wedi eu hanafu.
Fe ymosododd y wraig ar giwiau o bobol a oedd yn aros am fwyd gan gyrff rhyngwladol yn nhref Khar yn agos at y ffin gydag Afghanistan.
Yn ôl yr heddlu lleol, roedd y wraig yn gwisgo’r burka hir traddodiadol ac roedd hi wedi taflu dwy grenêd i ddechrau ac yna ffrwydro belt oedd o amgylch ei chanol.
Un gred yw ei bod wedi ymosod ar y ganolfan ddosbarthu bwyd oherwydd ei bod yn symbol o bresenoldeb y Gorllewin.
Mae llefydd o’r fath wedi bod yn dargedau o’r blaen i rai o’r 200 o ymosodiadau gan hunan-fomwyr yn yr ardal yn ystod y tair blynedd ddiwetha’.
Llun: Map o Bacistan yn dangos Khar (CCA 3.0)