Fe fydd Xavier Rush yn cael gwybod a fydd yn wynebu cosb am dacl uchel wrth chwarae Northampton dros y penwythnos pan fydd yn mynd o flaen panel disgyblu heddiw.
Fe gafodd yr wythwr garden goch am y dacl ar Courtney Lawes yn y Cwpan Heineken ddydd Sul diwethaf.
Fe fydd y panel disgyblu yn cwrdd ym Mryste heddiw i benderfynu a fyddan nhw’n cosbi Rush neu beidio.
Pe bai Rush yn euog fe allai wynebu gwaharddiad o rhwng pythefnos a blwyddyn.
Hyd yn oed pe bai’n derbyn y gosb isaf fe fyddai’n wynebu colli’r gemau darbi yn erbyn y Dreigiau a’r Gweilch ar 27 a 31 Rhagfyr.
Richie Rees
Mae mewnwr Cymru, Richie Rees wedi cael ei enwi yn dilyn digwyddiad yn yr un gêm.
Mae Rees wedi ei gyhuddo o gyffwrdd â llygad bachwr Northampton, Dylan Hartley.
Fe fydd y Cymro’n wynebu gwrandawiad disgyblu ond does dim dyddiad wedi cael ei gyhoeddi eto.
Pe bai Richie Rees yn euog fe allai wynebu gwaharddiad o 12 wythnos o leiaf. Ond pe bai’r panel yn credu bod y drosedd yn un difrifol, fe allai wynebu gwaharddiad o 24 wythnos.
Fe fyddai gwaharddiad hirach yn golygu bod Richie Rees yn methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.