Mae India wedi profi taflegryn heddiw a fyddai’n gallu cario bom niwclear hyd at 220 milltir, meddai swyddog.

Saethodd y fyddin dau daflegryn Prithvi II o Chandipur yn nhalaith ddwyreiniol Orissa, meddai SP Dash, uwch swyddog yn y fyddin.

“Roedd y prawf yn llwyddiannus,” meddai.

Fe allai’r taflegryn, a fyddai’n targedu canolfannau milwrol, gario bom a fyddai’n pwyso hyd at 1,100 pwys.

Methodd yr un prawf tri mis yn ôl oherwydd nam technegol.

Mae India a’u gwrthwynebwyr Pacistan yn saethu taflegrau prawf yn aml, ac fel arfer yn rhoi gwybod i’w gilydd cyn gwneud hynny.

Dywedodd India eu bod nhw wedi datblygu’r taflegrau diweddaraf er mwyn diogelu eu hunain yn erbyn eu cymdogion Pacistan a China.

Mae un o daflegrau eraill India, yr Agni-II, yn gallu hedfan 1,250 milltir – digon pell i daro rhannau mawr o dde China.