Mae honiadau newydd ynglŷn â chell derfysgol honedig oedd yn paratoi i ymosod ar Gaerdydd dros y Nadolig wedi ymddangos yn y wasg Brydeinig.
Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph roedd tri dyn a gafodd eu harestio yng Nghaerdydd wedi troi at fwslemiaeth eithafol ar ôl cyfnod yn y carchar am droseddau’n ymwneud â dwyn a chyffuriau.
Dywedodd cymydog i’r dynion wrth y papur newydd eu bod nhw “wedi mynd i’r carchar yn fân droseddwyr ac wedi dod allan yn mynegi barn eithafol”.
Roedd o’n credu bod pregethwr eithafol wedi dylanwadu arnyn nhw yn y carchar.
Honnodd eu bod nhw wedi dod allan o’r carchar â barfau hir ac wedi ymgyrchu yn erbyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Mae deuddeg dyn yn dal i gael eu holi gan swyddogion gwrthderfysgaeth yn dilyn arestiadau ar y cyd yng Nghaerdydd, Llundain, Stoke-on-Trent a Birmingham ddydd Llun.
Dywedodd yr Arglwydd Carlile, a oruchwyliodd ran o’r ymchwiliad i weithgareddau’r dynion, bod yna honiadau “arwyddocaol” yn eu herbyn.
“Rydw i’n credu ei fod yn debygol iawn y bydd pobol yn cael eu cyhuddo a’u herlyn,” meddai wrth un o bwyllgorau dethol Tŷ’r Cyffredin