Mae De Korea wedi addo “cosbi’r gelyn” wrth i gannoedd o filwyr, awyrennau, tanciau a hofrenyddion baratoi ar gyfer ymarferion anferth ger y ffin â’u cymdogion.

Er bod Gogledd Korea wedi dweud na fydden nhw’n ymateb ar ôl ymarferion tebyg dydd Llun, mae De Korea wedi rhybuddio ynglŷn ag “ymosodiadau cudd”.

Daw’r ddrwgdybiaeth ar y ddwy ochr ar ôl i Ogledd Korea ymosod ar Ynys Yeonpyeong, ble’r oedd De Korea yn cynnal ymarferion milwrol, ar 23 Tachwedd.

E fu farw pedwar o bobol, gan gynnwys dau ddinesydd, yn y bomio.

“Fe fyddwn ni’n cosbi’r gelyn os ydyn nhw’n ein pryfocio ni eto fel y gwnaethon nhw wrth fomio Ynys Yeonpyeong,” meddai’r Cadfridog Ju Eun-sik.

Dywedodd De Korea mae’r ymarfer heddiw fydd y mwyaf o’i fath erioed. Fe fydd yn cynnwys 800 o filwyr, awyrennau F-15K a KF-16, tanciau k-1, hofrenyddion AH-1S a gynau K-9.

Penderfynodd De Korea gynnal yr ymarferion ger y ffin â Gogledd Korea er mwyn ymateb i’w hymosodiad nhw, meddai llefarydd ar ran y fyddin.

Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dweud bod rhai i Ogledd Korea roi’r gorau i ymddwyn yn “ryfelgar” cyn bod y Tŷ Gwyn yn fodlon cynnal unrhyw drafodaethau pellach â nhw.

Coeden Nadolig

Mae’r frwydr ideolegol wedi poethi hefyd – dydd Mawrth, fe oleuodd De Korea goeden Nadolig anferth ar ben mynydd sy’n edrych i lawr ar sawl un o drefi De Korea.

Mae Gogledd Korea wedi beirniadu ail ddechrau’r traddodiad eleni, oedd wedi ei atal am sawl blwyddyn wrth i’r berthynas rhwng y gwledydd ddechrau gwella.

Mae’r goeden oleuedig yn cael ei ystyried yn sarhad ar Ogledd Korea oherwydd y toriadau trydan cyson yno. Mae o hefyd yn cael ei ystyried yn “bropaganda Cristnogol” gan Pynongyang.

Dywedodd Gogledd Korea eu bod nhw’n barod i saethu’r goeden i lawr.