Mae Aelodau Seneddol wedi argymell y dylid torri tollau Pontydd Hafren i gyn lleied ag £1.50 unwaith y maen nhw’n nwylo’r cyhoedd.

Dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r tollau, sy’n costio £5.70 ar hyn o bryd, gael eu torri yn sylweddol o 2017 ymlaen.

Roedd codi cymaint ar gerbydau oedd yn croesi’r pontydd ar yr M4 a’r M48 yn “gneud niwed i fusnes” yn ne Cymru, medden nhw.

Yn ôl y pwyllgor mae’r pontydd yn costio £15m i’w cynnal bob blwyddyn ond yn codi £72m.

Roedd llefarydd ar ran Severn River Crossing Plc eisoes wedi dweud wrth y pwyllgor mai gwaith cynnal a chadw ar y pontydd fydd yr unig gostau ar ol 2017.

‘Codi arian’

“Rydym ni’n pryderu ynglŷn a thystiolaeth bod y toll yn gwneud i bobol feddwl dwywaith cyn buddsoddi yng Nghymru,” meddai cadeirydd y pwyllgor, David Davies, AS Mynwy.

Rhybuddiodd na ddylai’r Llywodraeth “ddefnyddio’r pontydd er mwyn codi arian mawr”.

Beirniadodd cwmni Severn River Crossing Plc am beidio a chyflwyno’r gallu i dalu â cherdyn, gan ddweud na fyddai wedi digwydd o gwbwl pe na bai Cwpan Ryder yng Nghasnewydd eleni.

“Mae’r system dalu hen ffasiwn wedi rhoi argraff gwael i bobol sy’n teithio i Gymru,” meddai.