Mae’r pwysau’n cynyddu ar gwmnïau trafnidiaeth i osod trefn ar eu gwasanaethau cyn y Nadolig yn dilyn y problemau gyda’r eira.
Fe agorodd ail lain glanio ym Maes Awyr Heathrow neithiwr, sydd wedi rhoi hwb i obeithion y miloedd o deithwyr sy’n sownd yn Llundain.
Ond mae’r maes awyr yn parhau i gynghori teithwyr i gael cadarnhad bod eu hawyren yn hedfan cyn teithio i Heathrow.
Fe rybuddiodd prif weithredwr cwmni meysydd awyr BAA, Colin Matthews, na ddylai teithwyr ddisgwyl i’r gwasanaethau fod yn ôl i’w trefn arferol ar hyn o bryd.
Ond mae wedi addo ymchwilio i weld pam y cymerodd y maes awyr gymaint o amser i glirio’r eira.
Cameron – ‘rhwystredigaeth’
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi cyfleu ei “rwystredigaeth” am hyd yr anrhefn yn Heathrow ac mae cwmnïau awyrennau wedi cyhuddo BAA o fethu â darparu digon o hylif dadrewi i ymdopi gyda’r sefyllfa.
Fe ddywedodd prif weithredwr cwmni awyrennau BMI, Wolfgang Prock-Schauer, bod y sefyllfa yn Heathrow yn “gwbl annerbyniol”.
Mae Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd wedi beirniadu’r anrhefn ym meysydd awyr Ewrop ac wedi galw arnyn nhw i gynllunio’n well ar gyfer tywydd gwael.
Trenau
Mae gwasanaeth trenau Eurostar wedi dweud eu bod nhw’n rhedeg gwasanaeth sydd fwy neu lai fel arfer trwy dwnnel y Sianel.
Ond maen nhw’n dweud mai dim ond pobol gyda thocynnau i deithio heddiw a ddylai ddod i’r orsaf yn ystod y dydd.
Llun: Maes awyr Heathrow