Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n hawlio buddugoliaeth ar ôl i fudiad amddiffyn moch daear gael eu beirniadu am gamarwain pobol mewn hysbysebion.
Mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi cefnogi tair o gwynion gan yr Undeb yn erbyn mudiad o’r enw Save the Badger.
Roedd rhai elfennau o hysbysebion a gyhoeddwyd y llynedd yn erbyn bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddifa moch daear yng ngogledd Sir Benfro’n “camarwain” ac yn anghywir.
Fe gafodd y Llywodraeth eu hatal gan y llysoedd rhag bwrw ymlaen gyda’r difa, sy’n anelu at reoli’r diciâu mewn buchesi godro.
Fe benderfynodd yr Awdurdod bod yr hysbysebion yn anghywir i ddweud nad oedd cyfiawnhad gwyddonol tros y difa, y byddai’r broses yn cael gwared ar y moch daear yn llwyr ac y byddai cenawon yn llwgu o dan ddaear.
Ar y llaw arall, fe ddyfarnodd bod gan Save The Badger yr hawl i ddweud nad oedd y difa’n gweithio, am ei bod yn amlwg mai eu barn nhw oedd hynny.
‘Dirmyg llwyr’ – barn yr Undeb
Mae Is Lywydd yr Undeb wedi condemnio’r mudiad yn hallt. Doedden nhw ddim yn deall y wyddoniaeth neu roedden nhw’n camarwain yn fwriadol, meddai Brian Walters.
“Unwaith eto mae grŵp ymgyrchu wedi ei gael yn euog o gamarwain y cyhoedd ar fater difa moch daear,” meddai. “Mae’n debygol eu bod wedi camarwain miloedd o bobol i ymgyrchu yn erbyn difa moch daear oherwydd eu propaganda ffug.”£
Roedd yn cyhuddo’r mudiad o ddangos “dirmyg llwyr” at bobol Cymru.
Ymateb y mudiad
Roedd Save the Badger wedi amddiffyn eu hysbysebion gan ddadlau nad oedd y drefn o amddiffyn cenawon yn ddigon cry’, mai’r nod oedd difa’r moch daear yn llwyr o fewn yr ardal a bod astudiaethau gwyddonol wedi dangos nad oedd difa’n gweithio.