Mae’r tywydd gaeafol yn parhau gydag eira trwm yn disgyn yng ngogledd Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod yna beryg o eira trwm yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam tan tua 9.00am.

Roedd rhwng 8 a 10 modfedd o eira wedi disgyn yn y Gogledd dros nos wrth i gynghorau lleol rybuddio bod lefelau graean yn mynd yn isel.

Mae disgwyl i’r eira leihau yng Nghymru yn ystod y dyddiau nesaf ond fe fydd yr amodau rhewllyd yn parhau tan y penwythnos a thros ddydd Nadolig.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal wrth deithio.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud mai dim ond 12,000 tunnell o raean sydd gan Gymru mewn cronfa wrth gefn.

Ffyrdd ynghau

Yn ôl Traffig Cymru, dyma rai o’r ffyrdd sydd ynghau-

A4061 Ffordd Mynydd Rhigos
A4233 Ffordd Mynydd Maerdy
A4061 Ffordd Mynydd Bwlch
A470 Betws y Coed i Flaenau Ffestiniog – Bwlch y Gerddinen

Gwael iawn

Dyma rai o’r ffyrdd lle mae’r amgylchiadau’n wael iawn-

A470 Trawsfynydd
A470 Bwlch yr Oerddrws ger Mallwyd
A487 Tal Y Llyn
A494 Queensferry
A55 rhwng cyffyrdd 14 Madryn a 27 Llanelwy/Rhuddlan
A55 rhwng cyffyrdd 32 Treffynnon a 35A Brychdyn

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy hefyd ynghau.

Llun: Peiriant yn chwythu eira ar waith yng Nghaerdydd (Cyngor y Ddinas)