Mae pump o ddynion o Gaerdydd yn dal i gael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllwyn terfysgol.

Maen nhw ymhlith 12 o ddynion a gafodd eu harestio ddydd Llun yng Nghaerdydd, Birmingham, Stoke a Llundain ac mae’r heddlu wedi cael hawl i’w holi am bum niwrnod arall.

Mae’r pump rhwng 23 a 28 oed a’r gred yw eu bod o dras Bangladeshi. Prydeinwyr yw’r saith arall a dim ond 17 oed yw’r ieuengaf.

Uned Gwrthderfysgaeth Heddlu Gorllewin y Midlands sy’n arwain yr ymchwiliad ac mae tai yng Nghaerdydd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

Fe fydd rhaid i’r heddlu ryddhau’r dynion ddydd San Steffan neu ofyn am yr hawl i’w holi am saith niwrnod arall o dan y Ddeddf Wrthderfysgaeth – y cyfanswm y gallan nhw ei gael yw 28 niwrnord.

Llun: Heddlu Gorllewin y Midlands (o wefan y llu)