Mae rhagor o weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu dal yn beirniadu polisïau eu Llywodraeth eu hunain.

Roedd tri ohonyn nhw wedi condemnio’r penderfyniad i gael gwared ar fudd-dal plant i bobol ar lefel uwch o dreth gydag un, Ysgrifennydd yr Alban Michael Moore, yn dweud bod y penderfyniad “yn amlwg yn anghyson ac annheg”.

Yn union fel yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, roedden nhw wedi cael eu dal yn eu syrjeris gan ohebwyr y Daily Telegraph, wrth i’r rheiny esgus bod yn etholwyr.

Roedd Michael Moore hefyd wedi dweud bod y penderfyniad i godi ffioedd prifysgol yn “ddamwain car” ac yn “ddychrynllyd”, a’i fod yntau wedi cyflawni’r drosedd fwya’ bosib i wleidydd trwy dorri ei addewid.

‘Wedi syfrdanu’

Y ddau arall oedd y Gweinidog Pensiynau, Steve Webb, a oedd wedi sgrifennu at y Canghellor i ddweud nad oedd manylion y polisi budd-dal plant yn gywir, a’r Gweinidog Busnes, Ed Davey, a ddywedodd ei fod “wedi ei syfrdanu” gan y polisi.

Roedd ef hefyd wedi rhybuddio y byddai torri’r budd-dal tai yn golygu fod rhai teuluoedd yn disgyn o dan lefel tlodi.

Neithiwr fe gollodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, yr hawl i ddyfarnu ar achos monopoli’n ymwneud â BSkyB a chwmni News International ar ôl dweud wrth un o ohebwyr y Telegraph ei fod “mewn rhyfel” yn erbyn perchennog y cwmni newyddion, Rupert Murdoch.

Llun: Michael Moore, Ysgrifennydd yr Alban