Fe fydd rhaid torri nifer y prifysgolion yng Nghymru o fewn y tair blynedd nesa’, meddai’r corff sy’n rhoi arian iddyn nhw.
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi gwneud yn glir mai dim ond chwe sefydliad sydd eu hangen – bron hanner y nifer ar hyn o bryd.
Mae’r Cyngor wedi ymateb i gais gan y prifysgolion am arweiniad clir ar ôl iddyn nhw a’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ddweud bod angen uno a thorri niferoedd.
Y patrwm newydd
O ganlyniad, mae’r Cyngor yn dweud yn glir beth ddylai’r patrwm fod erbyn mis Mawrth 2013:
• Dim mwy na chwe sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
• Dim mwy na dau ym mhob rhanbarth, ond gyda sawl campws mewn sawl lle.
• Dim ond dwy brifysgol trwy Gymru a ddylai fod ag incwm sy’n eu gosod yn hanner isa’ incwm prifysgolion Prydain – ac oherwydd maint y boblogaeth, ddylai’r un o’r rheiny fod yn y De-ddwyrain.
Yn y De-orllewin, mae’r broses uno wedi dechrau digwydd eisoes, gyda phrifysgolion Caerfyrddin a Llanbed yn dod at ei gilydd i ffurfio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a honno’n cyhoeddi’r wythnos ddiwetha’ ei bod yn uno gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Sylwadau’r Cyngor
Fe fydd y Cyngor yn cyfarfod ag Is-gangellorion a llywodraethwyr y Prifysgolion i drafod y cynlluniau ail-drefnu “fel mater o frys” yn ystod y misoedd i ddod.
“D’yn ni ddim hyd yma wedi bod mor benodol wrth siarad am ein disgwyliadau ar gyfer strwythur addysg uwch yng Nghymru,” meddai’r Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr CCAUC.
“ Yn lle hynny roedd yn well gennym ofyn i’r sector am gynigion. Ond mae gofyn i ni roi arweiniad cliriach.
“Credwn y bydd y strategaeth yr ydym wedi’i hamlinellu yn gwneud y sector mor gryf a chynaliadwy ag y gall fod er mwyn cystadlu yn yr unfed ganrif ar hugain am fyfyrwyr, arian ymchwil, contractau busnes ac yn y blaen, a darparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru a’r byd ehangach.
Llun: Hen brifysgol Llanbed – bellach yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant