Mae’r joci, Tony McCoy wedi cael ei goroni’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.

Y Gwyddel yw’r joci cyntaf i ennill y wobr flynyddol, a hynny yn yr LG Arena yn Birmingham dros y Sul.

Fe ddaeth y pencampwr dartiau, Phil Taylor yn ail, a’r athletwraig, Jessica Ennis, yn drydydd.

Fe enillodd McCoy 293,152 o bleidleisiau neu 41% o’r bleidlais gyda Taylor yn cael 72,095.


Ar gefn ei geffyl

“Mae’n deimlad anhygoel i fod yn sefyll o flaen cymaint o bobol wych o fyd chwaraeon,” meddai McCoy ar ôl derbyn ei wobr.

“Rwy’n gweithio mewn maes rhyfeddol, ac fe hoffwn i ddiolch i’r bobol hynny sy’n gweithio yn yr un maes â fi, oherwydd rwy’n gwybod bod rhan fwyaf o’r gymuned rasio wedi treulio’r noswaith yn pleidleisio drosta’ i. “

Mae Tony McCoy wedi ennill dros 3,000 o rasys ac wedi cipio bron i bob prif wobr o fewn rasio gan gynnwys Cheltenham Gold Cup, Champion Hurdle, King George VI Chase a’r Grand National.