Mae’n rhaid i’r Eglwys Gatholig geisio deall beth sydd o’i le â’i neges, ac â’r bywyd Cristnogol yn gyffredinol, meddai’r Pab heddiw.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar derfyn blwyddyn gythryblus yn hanes yr Egwlys Gatholig oherwydd y newyddion ynglyn ag offeiriaid yn camdrin cannoedd o blant yn rhywiol.

Dywedodd y Pab Bened XVI fod angen i Eglwysi hyfforddi offeiriaid yn well, fel nad yw’r camdrin yn digwydd eto, a bod yn rhaid iddyn nhw ddarganfod ffordd o helpu’r dioddefwyr i wella.

Gwnaed y sylwadau gan y Pab o flaen cynulledifa o gardinaliaid ac esgobion y Fatican a oedd wedi ymgynnull, yn ôl traddodiad, ar gyfer ei araith Nadolig – anerchiad sydd o gryn bwysigrwydd gan ei fod yn trafod y prif faterion y dyliai’r Eglwys eu hystyried.

Er iddo bwysleisio’r ffaith fod nifer o offeiriaid yn gwneud gwaith da, dywedodd y Pab fod y newyddion am y camdrin yn 2010 wedi cyrraedd “deimensiwn anghredadwy,” a bod gofyn i’r Eglwys dderbyn y “cywilydd” fel galwad i adnewyddu.