Mae Josie Russell, y ferch a ddaeth trwy ymosodiad marwol ar ei mam a’i chwaer, yn prynu hen gartre’r teulu yn Nyffryn Nantlle.

Ym Mhlas Tanyrallt y bu’r teulu’n byw am bedair blynedd yn yr 1990au cyn symud i Swydd Caint lle digwyddodd yr ymosodiad.

Fe gafodd Lin Russell a’i merch, Megan, eu llofruddio gan ddyn o’r enw Michael Stone ond fe lwyddodd Josie Russell i oroesi er gwaetha’ anafiadau drwg i’w phen.

Arian ymddiriedolaeth

A hithau bellach yn 23 oed ac yn artist gyda defnyddiau, mae am ddefnyddio arian o Ymddiriedolaeth er mwyn prynu’r tŷ.

Fe ddywedodd Josie Russell ei bod am geisio ail-greu’r tu mewn yn union fel yr oedd pan oedd hi’n ferch fach ac roedd yn fonws ychwanegol bod ei thad, Shaun, yn byw gerllaw.

“Mae’n teimlo’n iawn, dw i’n mynd adref a fydda’ i byth yn gadael,” meddai.

Llun: Josie Russell yn arddangos peth o’i gwaith eleni (O’i gwefan www.josierussell.com)