Mae’r Alban wedi apelio am newid yn nhrefniadau ffioedd prifysgol mewn symudiad a allai olygu cannoedd o filoedd o bunnoedd i brifysgolion Cymru hefyd.

Yn ôl papurau’r Alban, mae’r Gweinidog Addysg yng Nghaeredin wedi sgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn am yr hawl i godi ffioedd ar fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn yr Alban, y bwriad yw codi ffioedd ar fyfyrwyr o Loegr, ond nid o’r Alban a’r Undeb Ewropeaidd – mae rheolau Ewrop yn dweud nad oes modd gwahaniaethu rhwng pobol o wahanol wladwriaethau ond bod modd gwahaniaethu o’u mewn.

Yng Nghymru hefyd, fe fydd myfyrwyr o Gymru a’r Undeb Ewropeaidd yn cael arian i dalu’r cynnydd mewn ffioedd, ond fydd myfyrwyr o Loegr ddim yn cael yr un hawl. Fe allai’r gwerth fod cymaint â £6,000 y flwyddyn ar gyfer pob myfyriwr.

Umbria-Cumbria

Yn awr mae Mike Russell yn yr Alban wedi sgrifennu at y Comisiynydd Addysg yn gofyn am yr hawl i godi ar fyfyrwyr Ewropeaidd, gan ddweud fod y rheolau’n annheg at fyfyrwyr o Loegr.

Mae’r wasg wedi bathu enw am y broblem – rhwyg Umbria-Cumbria.

Llun: Prifysgol Bangor