Mae rhybuddion am ragor o eira ar draws rhannau o dde Cymru yn ystod y dydd heddiw ac fe fydd y dyddiau nesa’n oerach nag erioed.
Y darogan yw y bydd cawodydd eira’n symud ar draws y De-orllewin a’r De gan adael rhwng 2 a 5 centimetr ar dir isel a mwy na hynny ar dir uchel.
Fe ddisgynnodd y tymheredd i tua 16 gradd o dan bwynt rhewi yng Nghapel Curig yn Eryri dros nos ac mae disgwyl nosweithiau tebyg yn ystod yr wythnos a hithau’n parhau i rewi yn ystod y dydd.
Pan fydd hi mor oer â hynny, mae peryg na fydd graean a halen ar y ffyrdd yn gweithio ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio bod angen cymryd gofal mawr.
Ysgolion ynghau
Does dim adroddiadau am briffyrdd ynghau, ond mae Traffig Cymru yn rhybuddio am drafferthion ar hewlydd y mynydd yn y Cymoedd, ar hyd yr M4 ac ar y ffordd rhwng Harlech a Maentwrog ym Meirionnydd.
Mae gwefannau cynghorau sir yn rhestru cannoedd o ysgolion sydd ynghau ac fe gyhoeddodd Cyngor Ceredigion na fyddan nhw’n casglu sbwriel heddiw er mwyn taenu halen tros ffyrdd llai a strydoedd.
Llun: Arad eira ar waith (Sir Caerfyrddin)