Ymosododd dyn digartref oedd yn cario gyda chyllell goginio ar blant ysgol ar ddau fws y tu allan i orsaf drenau yn Japan heddiw.

Cafodd 14 o bobol eu hanafu yn ystod yr ymosodiad. Roedd delweddau ar y teledu yn dangos pyllau o waed ar lawr un o’r bysiau.

Arestiwyd Yuta Saito, 27, a’i gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i aelodau o’r cyhoedd lwyddo i’w ddal y tu allan i Orsaf Toride yn rhanbarth Ibaraki, tua 25 milltir i’r gogledd ddwyrain o Tokyo.

“Roeddwn i eisiau dod a fy mywyd i ben. Mae’n wir fy mod i wedi ymosod ar bobol ar hap gyda chyllell goginio,” meddai Yuta Saito wrth yr heddlu.

Cafodd chwech o’r dioddefwyr eu trywanu a dioddefodd wyth arall o anafiadau llai difrifol wrth geisio ffoi, meddai llefarydd o ran heddlu Toride.

Roedd deuddeg o’r rheiny a anafwyd yn ddisgyblion cynradd ac uwchradd, meddai. Doedd hi ddim yn amlwg eto faint o blant oedd wedi eu trywanu, ond roedd un yn yr ysbyty ac mewn cyflwr difrifol.

(Llun: Adeilad yn Toride)