Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi rhybuddio’r banciau y bydd y Llywodraeth yn gweithredu os nad ydyn nhw’n torri nôl ar fonwsau anferth eu gweithwyr.
Galwodd ar fanciau i “ddal yn ôl” wrth ddatgelu faint o fonwsau oedden nhw’n talu staff i’w staff eleni a dywedodd y byddai llywodraeth y glymblaid yn ymyrryd os oedd rhaid.
“Dydyn nhw ddim yn gweithredu mewn gwagle cymdeithasol,” meddai wrth bapur newydd The Economist.
“Ni ddylai’r banciau feddwl y bydd y Llywodraeth yn gwneud dim byd.
“Mae’n amhosib cyfiawnhau’r toriadau fydd yn golygu bod miliynau o bobol yn gorfod aberthu, os ydi’r banciau yn parhau i dalu’r un bonwsau ag oedden nhw o’r blaen.”
Bydd ei sylwadau yn apelio at nifer o gefnogwyr craidd ei blaid, ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol golli cefnogaeth dros y penderfyniad i godi ffioedd dysgu.
Dywedodd Nick Clegg y byddai’n fodlon brwydro yn erbyn y banciau hyd yn oed os oedd hynny’n golygu ei fod o’n tanseilio ymdrechion y llywodraeth i leddfu tensiynau rhyngddyn nhw a’r banciau.