Mae Prif Weinidog Awstralia wedi cyhoeddi heddiw nad ydi sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange, wedi torri unrhyw gyfreithiau yng ngwlad ei febyd.
Dywedodd Julia Gillard, sydd o’r Barri yn wreiddiol, bod heddlu Awstralia wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw gyhuddiadau i’w dwyn yn ei erbyn yno.
Roedd y llywodraeth wedi gofyn i Heddlu Ffederal Awstralia ymchwilio i weld a oedd y wefan wedi torri unrhyw un o gyfreithiau Awstralia.
Fis diwethaf dechreuodd Wikileaks gyhoeddi negeseuon diplomyddol cudd gan swyddogion yr Unol Daleithiau mewn gwledydd eraill.
“Y cyngor yw nad ydi [Julian Assange] wedi torri cyfraith Awstralia,” meddai Julia Gillard.
Ond ychwanegodd Julia Gillard bod cyhoeddi’r dogfennau yn “amlwg yn weithred anghyfreithlon” a bod awdurdodau’r Unol Daleithiau yn ymchwilio.
Mae awdurdodau Awstralia wedi dweud eu bod nhw’n helpu gyda’r ymchwiliad.
Dywedodd Julia Gillard y byddai Julian Assange yn cael cymorth consylaidd yr un fath a pob dinesydd arall o Awstralia.