Cymerodd dau arlywydd ran yn rhaglen olaf y cyflwynydd Larry King, roddodd y gorau i ddarlledu ar CNN ar ôl 25 mlynedd ddoe.
Cyhoeddodd Larry King, 77, yn yr haf y byddai’n rhoi gorau i’w raglen Larry King Live eleni.
Cyn dyfodiad Fox News a MSNBC, Larry King oedd y rhaglen gyda’r gynulleidfa fwyaf ar unrhyw sianel newyddion.
Mae wedi cynnal 50,000 o gyfweliadau yn ystod ei yrfa darlledu, ac wedi recordio mwy nag 6,000 o sioeau ar gyfer CNN.
Ond mae rhai wedi ei feirniadu gan ddweud nad oedd ei gwestiynau’n ddigon caled a nad oedd o’n paratoi’n iawn ar gyfer ei gyfweliadau.
Fe fydd y cyflwynydd a’r newyddiadurwr Prydeining, Piers Morgan, yn cymryd yr awenau ym mis Ionawr.
Obama
“Dydw i ddim yn gadael, ond dydw i ddim yn mynd i fod ar y set yma mwyach,” meddai Larry King yn ystod ei raglen olaf. Mae o wedi trafod gwneud rhaglen gomedi neu mwy o waith radio.
Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi recordio neges ar gyfer y rhaglen olaf, ac fe ymddangosodd y cyn-arlywydd Bill Clinton am y 29ain gwaith.
“Er eich bod chi’n dweud mai dim ond gofyn cwestiynau ydych chi,” meddai Barack Obama, “mae cenedlaethau o Americanwyr wedi eu synnu, a’u hysbysu, gan yr atebion.
“Rydych chi wedi agor llygaid pobol i’r byd y tu hwnt i’w hystafelloedd fyw.”