Cafodd 69 o garcharorion eu rhyddhau ar gam ym Mhrydain y llynedd, cyhoeddwyd heddiw.
Roedd troseddwyr rhyw, lladron ac ymosodwyr treisgar o Gymru, yr Alban a Lloegr ymysg y rheini ryddhawyd ar gam.
Doedd yr un ohonyn nhw wedi eu rhyddhau ar gam o garchardai yng Nghymru. Roedd 5 wedi eu rhyddhau ar gam o Altcourse ger Lerpwl, ac wyth o Avon ym Mryste.
Datgelwyd yr ystadegau ar gyfer 2009-10 ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC.
Cafodd mwyafrif y troseddwyr a ryddhawyd ar gam eu gyrru’n ôl i’r carchar, ond mae pump wedi ffoi.
Mae’n ymddangos fod y rhan fwyaf o’r camgymeriadau o ganlyniad i staff y carchardai yn camgyfrif dyddiadau rhydau’r carcharorion.
Mae 39 o garcharorion oedd wedi eu hanfon i’r carchar am droseddau difrifol, gan gynnwys trais, ymosod a lladrad, wedi eu rhyddhau ers 2007.
Cafodd chwe throseddwr rhyw eu rhyddhau yn ystod yr un cyfnod.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Carchardai Cymru a Lloegr bod y rhan fwyaf o garcharorion oedd yn cael eu rhyddhau ar gam yn dychwelyd i’r ddalfa yn syth.
“Mae nifer y carcharorion sydd wedi cael eu rhyddhau ar gam yn ganran bychan iawn o’r cyfanswm. Mae camgymeriadau o’r fath yn anffodus ond yn anghyffredin,” meddai.