Fe fydd prifysgol fawr newydd yn cael ei chreu yn ne-orllewin Cymru wrth i ddwy brifysgol bresennol ddod at ei gilydd.
Maen nhw’n dweud ei fod yn gam hanesyddol a fydd yn trawsnewid addysg goleg yn yr ardal.
Mae Cyrff Llywodraethol Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cytuno mewn egwyddor i uno.
Fe gafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan lywodraethwyr Y Drindod Dewi Sant neithiwr a gan lywodraethwyr y Brifysgol Fetropolitan echnos.
Creu rhwydwaith
Mae’n gam pellach tuag at greu rhwydwaith addysg uwch a phellach yn yr ardal ac yn ymateb i gais y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, am i brifysgolion uno.
Fe fydd y ddwy brifysgol yn cadw’u henwau a’u hunaniaeth ond yn uno o ran gweinyddiaeth a pholisi o dan un prifathro.
“Y weledigaeth yw sefydlu grŵp addysgol rhanbarthol yn cynnwys y ddwy Brifysgol a Cholegau Addysg Bellach yn Ne-orllewin Cymru,” meddai datganiad ar ran Y Drindod Dewi Sant.
“Bydd trafodaethau pellach o ran strwythur a chyfansoddiad y brifysgol newydd a rolau’r Colegau Addysg Bellach yn Ne-orllewin Cymru.”
Sylwadau’r prifathrawon
Dywedodd Dr Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Y mae’r ddau gorff llywodraethol wedi gwneud penderfyniadau hanesyddol yr wythnos hon a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y sector addysg uwch yng Nghymru.
“Y mae hyn yn ddatblygiad pwysig i’r rhanbarth yn y ffaith y bydd ganddi grwpiau prifysgol cryf – un yn canolbwyntio ar ymchwil ar lefel uwch, a’r brifysgol sector deuol a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ei chymunedau”.
Dywedodd yr Athro David Warner, Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe: “Mae’r datblygiad newydd, cyffrous hwn yn adeiladu ar yr enw da sydd gan y ddwy brifysgol o ran cydweithio â’i gilydd.
“Fe fydd yn cael ei seilio ar bartneriaeth gydradd a bydd yn rhyddhau mwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau cynradd. Y mae hefyd yn diwallu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adeiladu màs critigol â mwy o sylwedd, a newid strwythurol radical”.
Llun: Campws Llanbed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant