Mae dau gyrch bomio o’r awyr gan yr Unol Daleithiau wedi lladd pump o bobol yng ngogledd orllewin Pacistan.
Fe ddaw’r ymosodiad yn rhan o frwydr y CIA yn erbyn gwrthryfelwyr yn yr ardal sy’n ffinio ag Afghanistan.
Fe gafodd dau bentref eu targedu yn Nyffryn Tirah yn rhanbarth Khyber – y gred yw bod ganddyn nhw gysylltiadau cryf gyda’r gwrthryfelwyr.
Fe darodd y taflegrau bentrefi Speen Drang a Shandana ac, yn ôl awdurdodau Pacistan, fe gafodd 11 person arall eu hanafu.
Mae mwyafrif cyrchoedd bomio’r Unol Daleithiau ym Mhacistan yn ardal Gogledd Waziristan sy’n cael ei rheoli gan y Taliban ac al Qaida.
Mae nifer yr ymosodiadau gan yr Unol Daleithiau ar wrthryfelwyr ym Mhacistan wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf i fwy na 100 gyda gweinyddiaeth Barack Obama yn credu mai dyma’r dacteg fwya’ effeithiol.
Llun: Bwlch y Khyber rhwng Pacistan ac Afghanistan (James Mollison CCA 2.5)