Mae mesur a fydd yn caniatáu i gynghorwyr gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell gam yn nes at gael ei basio.

Mae un o bwyllgorau deddfu’r Cynulliad wedi cymeradwyo’r Mesur Llywodraeth Leol sydd i fod i annog dulliau o gydweithio rhwng cynghorau.

Fe fydd hefyd yn caniatáu i’r awdurdodau wneud trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cynghorwyr, a hynny’n cynnwys yr hawl i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell, trwy gyswllt fideo a thechnoleg o’r fath.

Y nod yw ei gwneud hi’n haws i bobol o wahanol gefndiroedd ddod yn gynghorwyr, gan gynnwys rhai gyda theuluoedd.

Fe fydd rhan arall o’r Mesur yn arwain at fwy o gefnogaeth i gynghorwyr mainc gefn, sydd heb fod yn rhan o bwyllgor gwaith neu gabinet eu hawdurdod.

Llun: Adeilad Cyngor Sir Gwynedd