Mae heddluoedd Cymru’n rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd ar ôl i eira mawr ddisgyn ar rannau helaeth o’r wlad dros nos.

Fe ddywedodd Heddlu Dyfed Powys y dylai gyrwyr gymryd y “gofal eithaf” ac i baratoi ymlaen llaw cyn teithio heddiw yn dilyn “eira sylweddol.”

Maen nhw’n dweud bod y prif ffyrdd yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd, a’u bod nhw’n disgwyl i’r amodau wella wrth i’r eira ysgafnhau yn ystod y dydd.

Er hynny, mae trafferthion mawr ar lawer o ffyrdd, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle mae’r cyngor sir wedi apelio ar i yrwyr aros gartre’.

Dyw hi ddim yn rhewi yn yr ardal ar hyn o bryd, meddai’r heddlu, ac mae hynny’n help.

Y Gogledd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod eu prif ffyrdd nhwthau yn parhau i fod ar agor.

Ond mae’r A55 rhwng cyffordd 10 Bangor/Caernarfon ac 11 Llandygai ar gau yn dilyn damwain.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y dylai gyrwyr geisio canfod beth yw’r amodau cyn dechrau ar unrhyw daith.

Amodau gyrru gwael

Mae Traffig Cymru yn rhybuddio bod amodau gyrru gwael ar y ffyrdd canlynol-

M4 rhwng cyffyrdd 26 Malpas a 49 Pont Abraham
A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands
A465 Merthyr i’r Fenni
A470 rhwng Coryton ac Abercynon
A55 rhwng cyffordd 8 Benllech/Llanfair PG a chyffordd 15 Llanfairfechan.

Mae adroddiadau mwy lleol yn dweud fod problemau mawr ar briffyrdd ar draws y Gorllewin a’r Gogledd. Mae’r ffyrdd tros rai o fylchau’r Cymoedd ynghau.