Bydd y refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth 2011, yn dilyn gorchymyn a wnaeth y Frenhines ddoe.

Cafodd y Gorchymyn ar gyfer y Refferendwm ei wneud gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor, gan nodi’n swyddogol ddechrau cyfnod y refferendwm heddiw.

Ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd newydd ynglŷn â’r refferendwm ar gyfer cyfnod cyfan y refferendwm.

Bydd hyn yn berthnasol o heddiw tan ddyddiad y bleidlais.

Bydd y pleidiau gwleidyddol a sefydliadau ac unigolion eraill yn gosod y dadleuon o blaid ac yn erbyn yr ymgyrch.

“Mae’r ffaith bod y Frenhines wedi cymeradwyo’r gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn golygu ein bod ni’n gallu mynd ati heb oedi i baratoi ar gyfer y refferendwm,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Rydw i’n falch bod y rhwystr olaf wedi’i goresgyn ac y bydd y bleidlais bwysig yma i’w chynnal ar 3 Mawrth,” meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones:

Y cwestiwn fydd: “Ydych chi am i’r Cynulliad allu llunio deddfau ar faterion yn yr 20 o feysydd pwnc y mae ganddo bwerau ar eu cyfer?”