Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn oedi cyn prynu hofrenyddion chwilio ac achub newydd ar ôl i’r cwmni oedden nhw wedi’i ddewis i wneud y gwaith ddweud fod yna broblem gyda’i gynnig.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y llywodraeth mai consortiwm Soteria, sy’n cynnwys y cwmni amddiffyn Ffrengig Thales, oedd wedi ennill y contract £6 biliwn.

Roedd y cwmni i fod i gymryd drosodd gwasanaeth chwilio ac achub Prydain o’r Awyrlu Prydeining o 2012 ymlaen, am 25 mlynedd.

Fe fyddai hynny’n cynnwys rheoli gwasanaeth chwilio ac achub yng Nghymru, fel RAF y Fali.

Fe fyddai’r cwmni wedi amnewid hofrenyddion Sea King yr Awyrlu Prydeining gyda hofrenyddion Sikorskys Americanaidd.

“Mae’r cwmni wedi rhoi gwybod i’r weinyddiaeth amddiffyn o fewn y 48 awr diwethaf fod yna broblem posib ynghlwm â’r cynnig i ddarparu gallu chwilio ac achub Prydain,” meddai’r ysgrifennydd trafnidiaeth Philip Hammond heddiw.